Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Mehefin 2019
Amser:
09.29 -
10.33
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Helen Mary Jones AC David J Rowlands AC |
Comisiynydd Safonau: |
Syr Roderick Evans QC (Comisiynydd Safonau) |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd David Rowlands AC a etholwyd yn Aelod o'r Pwyllgor ar 12 Mehefin.
2.1 Datganodd Andrew RT Davies AC fuddiant gan ei fod yn cyflogi ei wraig.
2.2 Trafododd yr Aelodau y Penderfyniad ar Gyflogau’r Aelodau a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau ynghylch cyflogi aelodau'r teulu.
3.1 Trafododd yr Aelodau Adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) a chytunwyd i drafod y mater eto yn y cyfarfod nesaf.
4.1 Trafododd a chytunodd yr Aelodau y newidiadau a awgrymwyd.
4.2 Bydd y Clerc yn paratoi adroddiad i'r Aelodau ei ystyried yn adlewyrchu'r diwygiadau a awgrymwyd i'r Cod Ymddygiad.